Llydaw
Awduron y Testunau Llydaweg
Os ydym yn astudio’r testunau, eu darllenwyr, a chyd-destun hanesyddol y gymdeithas yn y 15fed a 16il ganrif mae’n gallu bwrw golau ar y sefyllfa. Y testunau sydd yn cynnwys odlau mewnol yw ‘Buhez Santez Non’,’Buhez Mabden’, a ‘la Mystere Bretonne de la Passion’ . [1] Mae’n bwysig oherwydd mae darlleniadau cynt y testunau hwnnw wedi cymryd yn ganiataol y mae cysylltiad yn bodoli a heb ystyried y cyd-destun hanesyddol.
Yn gyntaf, mae’n bwysig nodi nid beirdd oeddent ond clerigwyr a mynaich. Un o’r unig enwau sydd gennym yw enw dyn a oedd yn perchen ar wasg ym Mharis o’r enw ‘Eozen Quilleure’ (Yvon Quillivéré mewn Ffrangeg) [2] . Ef a oedd yn gyfrifol am argraffu ‘la Mystere Breton de la Passion’ ym 1530 . Argraffwr adnabyddus a oedd wedi argraffu llyfrau cyn hynny. Fel oedd myfyrwyr diwinyddol o Lydaw Isel yn niferus ym Mharis pryd hynny, mae’n debyg atynt yr oedd y llyfr yn anelu ynghyd â rhai eraill. Yr oedd y llyfr hwn mor boblogaidd yr ail-gyhoeddodd Tanguy Guéguen y llyfr wedi canrif ym 1622. [2] Mae yna hefyd cyfeiriadau at fersiwn gynharach o ‘la Passion’ ond nid oes gennym wybodaeth amdano .
Iaith y Werin neu Co-Langue?
Yr oedd y dosbarth dysgedig hwn yn Llydawyr Llydaweg ond yn gyfarwydd â’r Lladin, a’r Ffrangeg. Mae iaith y testunau hwnnw’n adlewyrchu co-langue a ddefnyddid fel canlyniad o’u haddysg crefyddol/academaidd (Lladin) a’r Ffrangeg yn iaith y grym gwleidyddol. Felly yr oedd y fath o Lydaweg yn wahanol iawn i iaith y werin [1]. Serch hynny, ni ddylid ystyried hyn fel gwendid fel nad oedd gan yr awduron barch tuag at eu hiaith frodorol ond megis enghraifft o di-glossia cymdeithasol a defnyddiodd yr awduron yr ieithoedd honno i gyfoethogi’r testunau a dangos eu haddysg. [1]
Lleiafrif o’r gymdeithas yr oedd awduron a darllenwyr y testunau hwnnw. Lleiafrif a oedd yn llythrennog, yn ddigon cyfoethog i fforddio’r llyfrau a’u deall. Er lleiafrif oeddent, yr oedd digon o bobl am weld eu hiaith mewn print, a felly yr oedd yna bobl a oedd yn fodlon i noddi y fath o waith . Mae Yves le Berres yn dadlau mai crefydd oedd y peth pwysicaf a’u hysbrydolasant i fydryddu cerddi a barddoni. Yr oedd marwolaeth yn beth cyffredin ac aml iawn yn gymdeithas hon, felly yr oedd yr awduron yn ysgrifennu am ‘fyw da’ a ‘marw da’, a hefyd i fynd yn ôl i wreiddiau Cristnogaeth er mwyn ateb beirniadaethau yn erbyn yr eglwys pryd hynny . [1]
Crefydd
Mae Yves le Berres hefyd yn rhoi pwyslais ar y cyd-destun Ewropeaidd a Christnogol y testunau hwnnw. Yr oedd gan y teuluoedd cyfoethog o Frontroulez a Landerne cysylltiadau rhwng Fflanders, yr Iseldiroedd a Lloegr ac yr oedd y cysylltiadau’n ddylanwadol arnynt, yn hytrach nag unrhyw draddodiad barddol yn bennaf pan nad oedd cyswllt rhwng noddwyr y beirdd Cymru a’r teuluoedd cyfoethog o Lydaw ychwaith [1]. Efallai mae’n nodi’r ffaith yr oedd William Salesbury yn cyfeirio at y Llydaweg ‘yn llawn lediaith ag ar ddifancoll’ a beirniadu’r defnydd o fenthyceiriau, felly ni welodd ef ryw gysylltiad rhwng llenyddiaeth y Llydaweg a’r Gymraeg os o gwbl . [3]
Ond serch hynny, nid yw’n sicr o ble gawsant y traddodiad o odlau mewnol, ond mae’n rhaid astudio’r cyd-destun hanesyddol i tu ôl i’r awduron sydd yn bwrw golau amdanynt hwy.
Cymru
Beirdd yr Uchelwyr
Ystyrid y 15fed ac 16il ganrif megis oes aur oherwydd safon barddoniaeth y beirdd o’r adeg honno. Yr oedd yr uchelwyr yn noddi’r beirdd a thrwy hynny gyfoethogodd y traddodiad o achos yr oedd y beirdd yn rhan bwysig o’r gymdeithas . Yn yr adeg honno, yr oedd y Gynghanedd yn hanfodol i waith y beirdd, yr oedd y beirdd hefyd yn cyfeirio at y system o fydryddiaeth honno megis ‘Cynghanedd’ a galwai yr awduron yn feirdd . Yn ogystal â hynny, yr oedd yna lyfrau dysgu crefft y beirdd a thraethawd am y Gynghanedd gan Simwnt Fychan ynddo . [4]
Yr oedd yna system o addysgu beirdd newydd, ac er nad yw’n hollol sicr am eu bodolaeth, efallai yr oedd yna ysgolion barddol hefyd. Cymhlethodd y system o gynganeddu dros y canrifoedd fel canlyniad o reolau caeth a hefyd er mwyn cystadlu yn erbyn beirdd eraill ar gyfer nawddogaeth gan yr uchelwyr. [4]Cymhlethodd Dafydd ab Edmwnd y Gynghanedd er mwyn ‘amddiffyn’ y beirdd proffesiynol a’u gwaith rhag beirdd is eu safon [4]. Datblygiad o draddodiad llafar ydyw’r Gynghanedd sydd gan wreiddiau sydd yn mynd cyn belled yn ôl ag oes Aneirin a Thaliesin .
Mydryddiaeth
Gellir gweld y Gynghanedd megis traddodiad seciwlar yn y ffaith nad oedd y Gynghanedd yn gaeth i un pwnc yn unig. Enghraifft dda o hynny ydyw Gwerful Mechain, bardd o fenyw a oedd yn byw yn ystod yr adeg honno, y mae’n nodweddol yr oedd menyw yn barddoni ond hefyd yn dangos natur ‘seciwlar’ y Gynghanedd gan y ffaith yr ysgrifennodd gywydd i’w gwain. Felly, yr oedd yn bosibl i gynganeddu am amrywiaeth o bynciau. Yn yr oes aur hwn, yr oedd Guto’r Glyn yn un o feirdd gorau ei oes, a’i ystyrid megis un o’r goreuon yn hanes Cymru [4].
Gellir gweld cyfeiriadau at y beirdd a’u rhan yn y gymdeithas dros y blynyddoedd a felly nid oedent yn bodoli mewn gwactod ond dosbarth o bobl sydd wedi bodoli a datblygu dros y canrifoedd. Gellir dyfynnu beirdd o oes Aneirin, oes Llywelyn yr Olaf, Dafydd ap Gwilym hyd at oes Guto’r Glyn, a oeddent hefyd yn cael eu galw’n feirdd, sydd yn bwysig iawn wrth ystyried rôl y beirdd yng Nghymru a’u barddoniaeth ac awduron y testunau Llydaweg Canol . [4]
Gellir dysgu mwy am Guto’r Glyn a’i waith wrth fynd i’r wefan hon:
http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/...
Gorffen
Mae Ronan Calvez ac Yves le Berre yn eu llyfr yn tynnu sylw at mai crefydd oedd cymhelliad yr awduron a ddatblygodd Llydaweg safon llenyddol ymysg lleiafrif lythrennog. Maent hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar y cyd-destun ehangach Ewropeaidd a oedd yn eu hysbrydoli hwy na thraddodiad ‘barddol’ a dderbyniasant ers amser maith yn ôl. Mae Ronan Calvez ac Yves le Berre yn ceisio osgoi cysylltu’r cerddi honno ag un rhyw gysyniad o etifeddiaeth Frythonaidd/Celtaidd . [1]
Gallem orbwyleisio tebygrwydd yr odlau mewnol ond heb ystyried y cyd-destun hanesyddol eang efallai mae’n rhy hawdd i feddwl y mae yna gysylltiad tebyg rhwng y defnydd o odlau mewnol mewn llenyddiaeth y ddwy wlad.
Yng Nghymru, mae’n glir iawn bod gan y beirdd linach hanesyddol sydd wedi bodoli dros y canrifoedd, ond yn Llydaw mae’n anodd profi tystiolaeth o fodolaeth y beirdd ar ôl cyfnod yr Hen Lydaweg. Yn ôl pob tebyg os oedd cyfundrefn barddol yn Llydaw, collasant eu nod gan yr uchelwyr yn gynnar iawn. Mae llawysgrifau’r Hen Lydaweg yn awgrymu iaith ddysgedig a diwylliedig a cheir barddoniaeth ynddi sydd yn awgrymu traddodiadau barddol tebyg i Gymru. Er enghraifft Canu Mawl a Dyfalu Serch hynny, nid yw’n hawdd profi sut y gallai hynny gysylltu awduron y testunau Llydaweg ym 1500-1600 oherwydd nad yw’n sicr sut y gallai hynny wedi parhau wedi canrifoedd i’r beirdd golli eu nawddogaeth gan yr uchelwyr.
Y mae’n rhy hawdd i gymryd yn ganiataol y testunau hwnnw. Yr oedd yr awduron yn wahanol ac mae angen parchu eu gwahaniaethau yn nhermau hanesyddol a’r ysgrifau y cynhyrchasant.
Ar ben hynny nid yw’n glir os oedd y traddodiad o odlau mewnol yn rhan o’r un etifeddiaeth a etifeddodd awduron y testunau yn y blynyddoedd 1500-1600. Yr oedd y beirdd Cymreig yn cyfeirio at eu gwaith megis ’Cynghanedd’ ond fel nad oes tystiolaeth i’r gwrthwyneb, nid oedd awduron y testunau Llydaweg yn cyfeirio at y gwaith a ysgrifenasant. Y tristwch yw y mae llawsgrifau helaeth wedi’u dinistrio dros y blynyddoedd oherwydd sawl ffactorau. Mae rhyfeloedd, goresgyniadau a chrefydd a gwleidyddiaeth wedi cyfrannu at y diffyg llawsgrifau sydd yn meddwl y mae yna ddiffyg gwybodaeth yn yr hyn yr ydym yn ei thrafod. Mae’r pwnc hyn yn cael ei drafod ym mhellach o ran tarddiad y Gynghanedd mewn erthygl arall a ysgrifennais a’i gyhoeddwyd ar ein blog cwrs meistr ni.
Notes
[1] Entre le Riche et le Pauvre la littérature du Breton entre 1450 et 1650, Yvez le Berre et Ronan Calvez, Emgleo Breiz, 2012, Ouestélio
[2] La passion et la Résurrection bretonnes de 1530, suivies de trois poèmes, Yves le Berre, CRBC, Brest, 2011
[3] I Gadw Mamiaith Mor Hen, Rhisiart Hincks, Gwasg Gomer, 1995
[4] Writers of Wales, the Poets of the Welsh Princes, J.E. Caerwyn Williams, University of Wales Press, 1978