‘Ar Genganez’: term addas i ddisgrifio llenyddiaeth y Llydaweg Canol?

Yng Nghymru gŵyr bron pawb ystyr y gair ‘Cynghanedd’ ond yn Llydaw mae’n ymddangos taw dim ond lleiafrif sydd naill ai’n gyfarwydd â’r gair neu yn ei ddefnyddio. Mae sawl cwestiwn yn codi wrth inni sôn am y gair hwn oherwydd nad oes gan y ddau air yr un hanes o ddefnydd. Ymddengys nad oedd awduron cerddi’r Llydaweg Canol yn cyfeirio atynt megis cerddi mewn ‘kenganez’, ar ben hynny, mae’n anodd profi hanes y gair ‘kenganez’ cyn yr 20fed ganrif. Mae hyn yn bwrw golau ar anamlder y gair.

Achos hynny, mae’n rhaid gofyn a yw’n briodol i gyfeirio at lenyddiaeth y Llydaweg Canol fel ‘kenganez’ sydd yn awgrymu gwreiddiau cyffredin â chynghanedd y Gymraeg sydd yn disgrifio system benodol o reolau a mesurau yn y traddodiad llenyddol Cymraeg. Trafodir yn y papur hwn hanes y term ‘kenganez’ ac os oes cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymru a Llydaw y Canol Oesoedd.

Y Gynghanedd

Mae ‘Cynghanedd’ yn cyfeirio at system o farddoni sydd yn defnyddio cyflythrennu, odlau mewnol a chyseinedd. Mae gan y Gynghanedd bedwar prif ddosbarth – y Gynghanedd Groes, y Gynghanedd Lusg, y Gynghanedd Draws a’r Gynghanedd Sain, mae’r pedwar prif ddosbarth yn cynrychioli dulliau gwahanol o ddefnyddio’r mesurau cynganeddol a rheolau penodol gan bob un. Gwelir sôn am y ‘Gynghanedd’ mewn cyd-destunau barddonol cyn belled yn ôl â’r 15g [1]. Er y ceir y gair ‘kenganez’ o’r wefan devri.bzh [2] sef; geiriadur hanesyddol y Llydaweg, 1914 ydyw defnydd cynharaf y gair . Nid yw’n sicr os mai newyddair a gafodd ei greu y 19ydd ganrif neu air a ddechreuodd i fod yn fwyfwy prin dros y canrifoedd.

Gellir dadlau taw o draddodiad llafar cynharach y deuai’r Gynghanedd, a welir enghreifftiau cynnar yn y Gododdin e.e:

“Gwŷr a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu” [3]

Oherwydd lleoliad y Gododdin, nid yw’n amhosibl dadlau yr oedd traddodiadau tebyg dros y gwledydd Brythonaidd i gyd, ond gan nad yw hyn yn esbonio bodolaeth odlau mewnol yn y Canol Oesoedd diweddar.

Ond os ydym am enghreifftiau tebyg yn y Llydaweg mae’n rhaid aros hyd at y canol oesoedd nes y ceir barddoniaeth sydd yn ymdebygu’r Gynghanedd yn y Llydaweg, a rhain am y rhan fwyaf yn ymdebygu’r Gynghanedd Lusg yn unig. Ond serch hynny, nid oedd neb yn cyfeirio at y farddoniaeth hon fel ‘kenganez’ yn y cyfnod hwn.

Beirdd a Chlerigwyr

Yng Nghymru ymddengys bod gan y Gynghanedd linach hanesyddol a chysylltiedig â’r beirdd dros y canrifoedd, ond yn Llydaw mae’n anodd profi tystiolaeth o fodolaeth y beirdd ar ôl cyfnod yr Hen Lydaweg. Yn ôl pob tebyg os oedd cyfundrefn farddol yn Llydaw, collasant eu nawdd gan yr uchelwyr yn gynnar iawn. Mae llawysgrifau’r Hen Lydaweg yn awgrymu iaith ddysgedig a diwylliedig a cheir barddoniaeth ynddi sydd yn awgrymu traddodiadau barddol tebyg i Gymru. Serch hynny, nid yw’n hawdd profi sut y gallai hynny gysylltu tueddiadau’r Hen Lydaweg ag odlau mewnol mewn llenyddiaeth wedi canrifoedd os nad yw’n sicr mai continwwm ydyw.

Ar ben hynny, nid beirdd a ysgrifennodd y cerddi ond clerigwyr. Er mae’r cerddi wedi’u cyfansoddi’n grefftus iawn, mae bron pob cerdd yn grefyddol eu natur. Ynglŷn â hynny, yr oedd y beirdd Cymreig o’r un adeg yn cyfansoddi cerddi am amrywiaeth o bynciau gwahanol ac yr oedd ganddynt rôl penodol yn y gymdeithas megis beirdd. Oherwydd hynny, mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol am y cyd-destunau gwahanol yn hanes y ddwy wlad. Efallai, yn yr 20fed ganrif, y mae defnydd y gair ‘kenganez’ yn allanoli dymuniad i bortreadu Llenyddiaeth y Llydaweg Canol fel pe bai ganddi’r un llinach megis yng Nghymru.

Y Llydaweg Canol

Mae gan gerddi’r Llydaweg Canol elfennau tebyg i Gynghanedd y Gymraeg sef; mae rhai o’r cerddi y ceir yn debyg i’r Gynghanedd Lusg (goben y gair olaf yn odli gyda gair yng nghanol y llinell:

“an guen heguen am louenas...”
“yr un wen ei grudd a’m llawenhaodd...”
(1350) o lawysgrif Lladin o’r Speculum Historale [4]

Mae’r gerdd hon yn dod o’r 14fed ganrif a felly’n gynharach na cherddi’r 16fed ganrif a’r 17il ganrif pan geir rhan fwyaf y cerddi sydd yn cynnwys odlau mewnol. Byddai hynny’n awgrymu tueddiad henach i ddefnyddio odlau mewnol na ddisgwylir sydd yn dangos na wyddem bopeth am hanes y cerddi honno, a hanes y defnydd o odlau mewnol mewn Llenyddiaeth Lydaweg. Ynglŷn â hyn, mae’n rhaid cofio y cafodd llawysgrifau aneirif eu dinistrio dros y canrifoedd yn Llydaw oblegid rhyfeloedd, goresgyniadau, gwleidyddiaeth a chrefydd. Serch bod gan gerddi’r Llydaweg Canol odlau mewnol nid yw’n golygu mai cynghanedd ydyw, felly a yw’n anacronistig i’w alw’n ‘kenganez’?

Mae Ronan Calvez ac Yves le Berre yn eu llyfr yn tynnu sylw at mai crefydd oedd cymhelliad yr awduron a ddatblygodd Llydaweg safon llenyddol ymysg lleiafrif lythrennog. Maent hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar y cyd-destun ehangach Ewropeaidd a oedd yn eu hysbrydoli hwy na thraddodiad ‘barddol’ a dderbyniasant ers amser maith yn ôl. Mae Ronan Calvez ac Yves le Berre yn ceisio osgoi cysylltu’r cerddi honno ag un rhyw gysyniad o etifeddiaeth Frythonaidd/Celtaidd.

Colled ac Agenda

Serch hynny er nad oedd cysylltiad llenyddol rhwng Cymru a Llydaw pryd hynny, mae’n anodd dweud o ble gawsant y system odlau mewnol. Gellir dadlau achos y mae’r ieithoedd yn agos (o ran pwyslais ar y goben) mae felly’n ddealladwy y byddai barddoni’n y ddwy iaith yn digwydd i fod yn debyg pa yr un modd. Ond mae Rhisiart Hincks yn ein hatgoffa ni pa mor hawdd yw colli llawysgrifau a thraddodiadau a gallai’r un peth fod wedi digwydd i Gymru a’r Gymraeg. Felly, nid ydym yn gweld yr holl lun pan ydym yn chwilio am darddiad y dulliau yma o fydryddu a chynganeddu.

Yn yr 20fed ganrif roedd awduron a chenedlaetholwyr megis Roparz Hemon am brofi gwerth Llydaw a’i harwahanrwydd i Ffrainc fel cenedl ‘Celtaidd’ go iawn. Bwriad Roparz Hemon oedd dyrchafu llên Llydaw ac edrychodd ef tuag at Gymru er mwyn cyrraedd ei nod. Wrth iddo alw’r dull o farddoni yn ‘kenganez’ mae’n allanoli ei syniadau am Lydaw, sydd yn cymryd taw mewn cynghanedd y mae’r cerddi Canol Oesol yr ydym yn eu darllen yn ei waith oherwydd y rhinwedd fod ganddynt odlau mewnol a chyflythrennu.

Mae yna waith ac astudiaeth i’w wneud o hyd ond mae’n amlwg fod angen arnom i fod yn ofalus tra ydym yn sôn am lenyddiaeth y Llydaweg Canol. Ar ben hynny, os y gyfeirir ati fel ‘ar genganez’ yn enwedig os ystyriwn fod yna ideoleg gan y gair yn yr 20fed ganrif. Efallai os ydym yn chwilio am yr un peth yn llenyddiaeth y Llydaweg fel yn y Gymraeg, nad yw’n parchu bod gan Lydaw ei llenyddiaeth a’i hanes ei hunan, a gan hynny, bod y Llydawyr wedi mynegi barddoniaeth gydag odlau mewnol mewn ffordd wreiddiol a Llydewig, yn wir, ffordd wahanol i’r Cymry. Mae angen inni ystyried y datblygodd y ddwy wlad yn wahanol iawn dros y canrifoedd a bod hynny hefyd yr un mor wir am eu traddodiadau llenyddol.

Notes

[3T.9 Detholiad o Farddoniaeth Gymraeg, ynghyd a nodiadau a geirfa, Llyfrau’r Dryw, Llandybie, Sir Gaerfyrddin, 1969

[4T. 44 I Gadw Mamiaith Mor Hen, Rhisiart Hincks, Gwasg Gomer, 1995

Published 12 November 2019 by
  • Felix Parker-Price
    Felix Parker-Price is currently in the first year of the Celtic Languages and Cultures in Contact Masters course at UBO (University of Western (...)
(Edited 5 July 2021)

Llyfryddiaeth

https://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html
http://www.devri.bzh/recherche/?q=kengan&submit=
Detholiad o Farddoniaeth Gymraeg, ynghyd a nodiadau a geirfa, Llyfrau’r Dryw, Llandybie, Sir Gaerfyrddin, 1969
I Gadw Mamiaith Mor Hen, Rhisiart Hincks, Gwasg Gomer, 1995
Llawlyfr LLydaweg Canol (Diwygiedig), Henry Lewis a J.R.F. Piette, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1966
Llydaw - ei llen a’i llwybrau, Gwyn Griffiths, Gomer, 2000
Writers of Wales, the poets of the Welsh princes, J.E. Caerwyn Williams, University of Wales Press, 1978
The Histories of Europe, a concise history of Brittany, Gwenno Piette, University of Wales Press, Cardiff, 2008
Literature in Celtic Countries, Taliesin Congress Lectures, edited by Caerwyn Williams, Unviersity of Wales Press Cardiff, 1971
L’ancien vers breton, Emile Ernault, Brud Nevez, 1991
Entre le riche et le pauvre, la literature du breton entre 1450 et 1650, Yvez le Berre et Ronan Calvez, Emgleo Breiz, 2012, Ouestélio